Mae rôl y sefydliadau addysg uwch o fewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn hanfodol gan eu bod hwythau yn addysgu nifer fawr o weithwyr proffesiynol ac arweinwyr cymdeithas y dyfodol. Mae ganddynt rôl fawr i’w chwarae o ran rheolaeth amgylcheddol eu sefydliadau a’u polisïau caffael, a sicrhau bod y polisïau’n cael eu cyflwyno gan fod yn ymwybodol o’r byd o’n cwmpas, yn gadarn o ran moeseg ac yn gytbwys o ran yr amgylchedd. Mae ganddynt hefyd y potensial i ddylanwadu ar eraill y tu allan i’r brifysgol drwy gynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gydweithio â CCAUC ac eraill er mwyn datblygu cyfleoedd i gydlynu arferion presennol a rhannu arferion gorau ar gyfer datblygu hyfforddiant sy’n benodol i’r sector.