Mae ymroddiad i gynaladwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang yn gyffredin ym mhob lefel o ddarpariaeth AU (HE), o gyrff ariannu fel Llywodraeth Cynulliad Cymru (LLCC) a HEFCW (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru) i’r sefydliadau dysgu ac ymchwil eu hunain.
Dechreuodd y prosiect hwn, a ariennir gan LLCC, yn 2004. Mae wedi datblygu adnoddau i gefnogi gweithredu Addysg ar Gyfer Datblygiad Cynaliadwy (ADC/ESD) a hyfforddiant Dinasyddiaeth Fyd-eang (DF/GC) drwy greu cyflwyniadau Powerpoint a deunyddiau cefnogi, ac maent i gyd ar gael oddiar y dudalen we hon. Mae’r cyflwyniadau a’r deunyddiau cefnogi i gyd wedi eu profi’n helaeth gan y tîm a’u datblygodd hwy ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r sesiynau wedi eu cynllunio fel y gallant gael eu haddasu gan bob sefydliad/defnyddiwr i ateb eu gofynion penodol hwy eu hunain.
Dogfennau Islwytho
|
Fel y maent ar hyn o bryd, mae dwy raglen sesiwn sylfaenol, rhaglen fyr 15-20 munud wedi ei chynllunio ar gyfer sesiynau sefydlu staff, a rhaglen lawn
50-60 munud a gynlluniwyd ar gyfer sesiynau datblygiad proffesiynol parhaus sy’n gallu cael eu cynnal mewn awr ginio. |
Amlinelliad o sesiwn llawn |
|
Amlinelliad o sesiwn byr |
|
Cwis ffordd o fyw |
|
Difiniadau o gynaladwyedd |
|
Addewidion cerdyn post |
|
Esiampl o ffurflen werthuso |
|
Adnoddau a gwybodaeth bellach |
|
Powerpoint o sesiwn llawn (lliw) |
|
Powerpoint o sesiwn llawn (di-liw) |
|
Powerpoint o sesiwn byr (lliw) |
|
Powerpoint o sesiwn byr (di-liw) |
|
Yn ychwanegol at ddatblygu’r deunyddiau hyn, mae’r tîm yn gweithio tuag at ddefnyddio’r sesiynau ar draws y wlad. Rydym yn hapus i ddarparu’r sesiynau hyn mewn unrhyw sefydliad AU yng Nghymru, ac i ddarparu cefnogaeth ychwanegol. Byddem hefyd yn gwerthfawrogi clywed gan unrhyw un sy’n defnyddio’r adnoddau hyn ac yn gwerthfawrogi cydnabyddiaeth a chael ein dyfynnu.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â: Dr. Larch Juckes Maxey
Yr Adran Ddaearyddiaeth,
Prifysgol Abertawe.
Parc Singleton,
Abertawe. SA2 8PP
Ebost: [email protected] Ffôn: 01792 513348
|