Mae’r sector hwn yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd addysg a hyfforddiant i oedolion a phobl ifanc ac mae’n chwarae rôl allweddol yn y gwaith o greu cymdeithas sy’n gynaliadwy ac sy’n ymwybodol o’r byd o’n cwmpas.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar feithrin gallu’r darparwyr i gymryd rhan yn yr Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang a darparu addysg o’r fath.