Caiff Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ei darparu drwy weithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, trwy fentrau ar gyfer yr ysgol gyfan a thrwy’r partneriaethau y mae’r ysgol yn eu meithrin er mwyn gwella’r addysg gyfannol y mae’n ei darparu.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn ceisio uno’r ddealltwriaeth gyffredin am Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang i ysgolion gyda Chwricwlwm 2008. Cynhelir hyfforddiant a bydd yr adnoddau’n cael eu datblygu wrth gydweithio ochr yn ochr â ‘galluogi cefnogaeth effeithiol’ (www.cyfanfyd.org.uk) ac o fewn rhwydweithiau a strwythurau newydd.
|