Mae gwaith ieuenctid byd-eang yn annog ieuenctid i feddwl yn feirniadol am y byd o’n cwmpas, yn hytrach na derbyn y negeseuon a drosglwyddir i ni gan y cyfryngau neu gan wleidyddion er enghraifft. Mae gwaith ieuenctid byd-eang yn ymateb i’r ffaith bod ein bywydau bob dydd yn gysylltiedig â bywydau pobl eraill ledled y byd, ac mae’n broses o gydnabod ein bod yn aelodau o gymdeithas
fyd-eang, ac o ganlyniad bod gennym hawliau a chyfrifoldebau byd-eang.
Mae’r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn ceisio defnyddio arferion da a chydweithredu er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang o fewn y sector hwn.