| |
“Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hyrwyddo datblygiad
sy’n diwallu anghenion y presennol heb gyfaddawdu gallu
cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae hyn yn golygu y byddwn yn cyfuno egwyddorion datblygu cynaliadwy
yn ein gwaith ac yn ceisio dylanwadu ar eraill i wneud yr un
fath.”
(Dyfyniad o Gynllun Datblygu Cynaliadwy’r Cynulliad)
Mae Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-Eang yn ddull sy’n cynnwys holl gwricwlwm a rheolaeth yr ysgol, ac nid yn bwnc ‘ychwanegol’ yn unig. Mae ei wreiddiau mewn addysg amgylcheddol ac addysg ddatblygol. O ganlyniad, mae nifer o’r blociau adeiladu ar gyfer addysgu datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang yn bresennol ym mhob ysgol eisoes.

|
Mae plant ac oedolion
ifanc yn haeddu gwybod bod cysylltiad anorfod rhwng eu
bywydau a phenderfyniadau pobl eraill ledled y byd a’u
bod yn effeithio arnynt.
Mae ganddynt hawl i ddeall y
materion hynod bwysig sy’n wynebu’r blaned
a gwybod y gallant chwarae rhan bersonol
wrth gynorthwyo i lunio’r dyfodol. |
Mae Addysg Datblygu Cynaliadwy
Yn galluogi pobl i ddatblygu’r wybodaeth, y gwerthoedd
a’r sgiliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau am
y ffordd rydym yn gwneud pethau’n unigol ac wrth
gydweithio, yn lleol ac yn fyd-eang, a fydd yn gwella
ansawdd bywyd yn awr heb niweidio’r blaned ar gyfer
y dyfodol.
|
|
Addysg a Dinasyddiaeth Fyd-eang
Mae hyn yn galluogi pobl i ddeall y grymoedd byd-eang sy’n llunio eu bywydau ac yn eu galluogi i gael y wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd fydd yn rhoi’r gallu iddyn nhw gymryd rhan yn y broses cymryd penderfyniadau, yn lleol ac yn fyd-eang, sy’n hyrwyddo byd sy’n fwy cyfiawn ac yn fwy cynaliadwy.
|
Mae Addysg Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn ymwneud â’r canlynol:
- Y cysylltiadau rhwng y
gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd
a rhwng ein bywydau ni a bywydau pobl eraill ledled y byd
- Anghenion
a hawliau cenedlaethau’r presennol a’r
dyfodol
- Y berthynas rhwng pŵer, adnoddau a hawliau dynol
Goblygiadau
lleol a byd-eang popeth rydym ni’n ei wneud
a’r hyn y gall unigolion a sefydliadau ei wneud
i ymateb i faterion lleol a fyd-eang.
Cysyniadau ADC&DF
|