Mae’n rhaid i’r camau gweithredu cychwynnol yn y sector hwn ganolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ar lefel strategol ac ar lefel cyflawni.
Mae’n rhaid creu rhyw fath o ‘ddealltwriaeth gyffredin’ o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yn y sector hwn er mwyn arwain y gwaith o godi ymwybyddiaeth a datblygu hyfforddiant ac adnoddau.