Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio
Sgiliau , Gwerthoedd ac Agweddau sy'n gysylltiedig ag ADFGC
- Cyd-ddibyniaeth
deall sut mae pobl, yr amgylchedd a'r economi wedi'u cysylltu'n annatod ar bob lefel o'r lleol i'r byd-eang
- Dinasyddiaeth a stiwardiaeth
cydnabod pwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb unigol a gweithredu i wneud y byd yn lle gwell
- Anghenion a hawliau
deall ein hanghenion sylfaenol ein hunain ac am hawliau dynol a beth mae'r camau a gymerir heddiw yn eu golygu i anghenion cenedlaethau'r dyfodol
- Amrywiaeth
deall, parchu a gwerthfawrogi amrywiaeth ddynol - diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd - a bioamrywiaeth
- Newid cynaliadwy
deall bod adnoddau yn derfynedig a goblygiadau hyn i ffyrdd o fyw pobl ac i ddiwydiant a masnach
- Ansawdd bywyd
cydnabod bod cyfiawnder a thegwch byd-eang yn elfennau hanfodol cynaliadwyedd a bod rhaid bodloni anghenion sylfaenol yn fyd-eang
- Ansicrwydd a rhagofalon
cydnabod bod amrywiaeth o ddulliau posib o ymdrin â chynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang a bod sefyllfaoedd yn newid yn gyson, sy'n awgrymu bod angen hyblygrwydd a dysgu gydol oes
- Gwerthoedd a chanfyddiadau
datblygu gwerthusiad beirniadol o ddelweddau o rannau'r byd sy'n llai ac yn fwy datblygedig yn economaidd, a gwybodaeth amdanynt, a gwerthfawrogiad o'r effaith y caiff y rhain ar agweddau a gwerthoedd pobl
- Datrys anghydfod
deall sut y mae anghydfodau yn rhwystr i ddatblygiad ac yn berygl i ni i gyd a pham y mae angen eu datrys a hybu cytgord
“ Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang” Cyhoeddwyd gan ACCAC, ar ran y Llywodraeth Cynulliad Cymru (2002).
Sgiliau
- Meddwl beirniadol
- Gallu dadlau’n effeithiol
- Gallu herio anghyfiawnder ac anghydraddoldebau
- Parch ar gyfer pobl a phethau
- Cydweithredu a gwrthdaro
- Penderfyniad
Gwerthoedd ac agweddau
- Ymdeimlad o hunaniaeth a hunan-barch
- Empathi
- Ymrwymiad i gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb
- Gwerthfawrogi a pharchu amrywiaeth
- Pryder dros yr amgylchedd ac ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy
- Cred y gall pobl wneud gwahaniaeth
|