ADC/DB
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Dinasyddiaeth fyd-eang
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 

Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio

 

Mae Dinasyddiaeth a Dinasyddiaeth fyd-eang yn gysyniadau a gofleidiwyd gan nifer o gyrff gwahanol. Mae llywodraethau yn awyddus i’w hyrwyddo, ynghyd â Sefydliadau All-lywodraeth, cwmnïau masnachol a phrifysgolion - ceir gradd newydd yn y pwnc. Mae Don McKinnon, Ysgrifennydd Cyffredin y Gymanwlad, wedi rhoi araith yn ddiweddar yn ei hyrwyddo.

Pam felly fod cymaint o ddiddordeb yn y pwnc hwn? Pam fod y Cynulliad Cenedlaethol yn hyrwyddo’r pwnc mor gryf?

Mae’r rhesymwaith ar gyfer cysyniad dinasyddiaeth fyd-eang yn dechrau gyda’r cymunedau lleol yn yr hyn y mae pobl Cymru yn byw. Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld twf y ‘pentref byd-eang’ y dywedir ein bod i gyd yn byw ynddo. Mae mewnfudo wedi golygu fod pobl, mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru, yn cael eu haddysgu â phobl o wahanol ddiwylliannau ac yn gweithio ochr yn ochr â hwy. Dylanwadir ar rin bywydau fwyfwy gan y cyd-destun byd-eang, o’r rhyfel yn Irac i’r trafodaethau a hyrwyddir gan Sefydliad Masnach y Byd.

Mae’r materion hyn yn effeithio ar fywydau pobl ymhle bynnag maent yn byw. Rydym yn ddinasyddion byd-eang, ac er mwyn cyflawni’r rôl yn llawn, mae arnom angen archwilio’r berthynas hon rhwng materion byd-eang a chymunedau lleol, i ddod yn ymwybodol o’n swyddogaethau yn y gymuned leol a’r gymuned fyd-eang, a datblygu’r llythrennedd gwleidyddol a fydd yn ein galluogi i gymryd rhan yn ein cymunedau yng Nghymru, y DU ac yn y byd ehangach. Yr agwedd ddeuol hon – ‘ymwybyddiaeth o’ a ‘chymryd rhan mewn’ – sy’n ganolog i’r syniad o ddinasyddiaeth fyd-eang.

Mae Oxfam yn rhoi diffiniad gwych o’r hyn sy’n gwneud dinesydd byd-eang. http://www.oxfam.org.uk/coolplanet/teachers/globciti/whatis.htm

Mae craidd dull o’r fath wedi’i seilio ar weithio am gyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol . Mae hyn yn golygu edrych y tu allan i’n cyd-destunau ein hunain i gymryd persbectif ehangach ac edrych ar ddinasyddiaeth o wahanol safbwyntiau, yn cynnwys safbwyntiau pobl nad ydynt yn dod o’r gorllewin, er mwyn trafod hawliau a chyfrifoldebau pob dinesydd.

Mae angen i ddinasyddion byd-eang allu adfyfyrio ar eu bywydau eu hunain, a’u lle yn eu cymunedau a’r gymdeithas ehangach, yn cynnwys adfyfyrio ar eu rôl mewn democratiaeth gyfranogol ac mewn lles cyffredinol cymdeithas. Bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bobl fod yn ymwybodol o natur amryfath gynyddol y gymdeithas maent yn byw ynddi a’r byd o’u hamgylch, ac i ystyried hyn wrth wneud unrhyw benderfyniad.

Bydd angen i ddinasyddion byd-eang o’r fath ymgyfarwyddo â’r gwahanol sefydliadau (economaidd, gwleidyddol, addysgol etc.) ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang sy’n dylanwadu ar fywydau pobl, ac mewn rhai achosion, yn eu rheoli. Dylent ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gymharu gwerthoedd penodol y sefydliadau hynny gyda realiti eu perfformiad. Er mwyn defnyddio’r sgiliau hyn yn llawn, bydd angen i fyfyrwyr allu gael gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, a gallu asesu dilysrwydd y ffynonellau hynny. Edrychwch ar y project o Ganada ar addysgu llythrennedd cyfryngau - http://www.worldvision.ca/home/media/MediaLit.pdf

Bydd y materion sydd o bryder i ddinesydd byd-eang yn amrywio, ond bydd yn cynnwys:

I gael ymdriniaeth â materion megis cynhesu byd-eang, llygredd etc., gweler y tudalennau ar ddatblygu cynaliadwy ar y wefan hon.

Pwy sy’n Hyrwyddo Dinasyddiaeth Fyd-Eang?

 

 
 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk