ADC/DB
Ymchwilio'r CyfeiriadurE-Fforwm
AelodauBeth yw ADC/DB?
 
 
Agweddau at natur
deunyddiaunewyddionsector ysgolionsector addysg uwchraddsector addysg pellach a Dysgu trwy weithiosector gwatih ieuenctidsector addysg barhaus i oedoliongweithdai DSW 09Datblygu CARcysylltiadau DefnyddiolymatebYmwadiad
 

Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio

 

Islwytho'r Cyfarwyddiadau (MSWord)

Yn addas ar gyfer: 16+, Darpar athrawon

Deilliannau dysgu:

  • edrych ar amrywiaeth o agweddau tuag at y byd naturiol;
  • ystyried systemau gwerth gwahanol sy’n gyffredin yn y byd, ac
  • ystyried eu hagweddau a’u gwerthoedd eu hunain.

Cysyniadau ADC&DF: newid cynaliadwy, ansicrwydd a rhagofalon

Bydd arnoch angen:

Gosodiadau Agweddau at Natur
Cyfarwyddiadau stori Chipko
Stori Chipko

Cyflwyniad
Yn y gweithgaredd hwn, dangosir pedwar ‘naratif’ i fyfyrwyr sy’n adlewyrchu gwahanol agweddau tuag at y byd naturiol, yn benodol, amgylcheddau coedwig. Mae’r pedwar barn yn cynrychioli trafodaethau a dadleuon cyfredol am rôl coedwigoedd yn ein bywydau.

Mae darn un yn defnyddio naratif i ddangos GOLWG DDIWYDIANNOL ar natur. Daw hyn o lyfr Susan Griffin, Women and Nature. Ysgrifennwyd yr ail ddarn gan ferched Chipko o India fel rhan o’u hymgyrch i achub eu coedwigoedd. Ceir eu barn hwythau hefyd i edrych ar gysyniad CYNALIADWYEDD. Mae’r trydydd darn gan Susan Griffin hefyd ac yn anthropomorffeiddio llais coed i gynrychioli safbwyntiau ECOLEGWYR. Yn olaf, rydym yn adrodd ar sgwrs a gafwyd â gwyddonydd ymchwil mewn prifysgol i ddangos safbwynt GWYDDONOL.

Mae’r hanesion hyn yn drosiadau ar gyfer digwyddiadau go iawn yn y byd. Mae’r defnydd o’r farn ddiwydiannol a gwyddonol am goedwigoedd yn amlwg ledled y byd gyda rhaglenni ailgoedwigo yn y De gan ddefnyddio rhywogaethau estron i gynhyrchu cnydau ar gyfer diwydiant. Mae’r gwrthdaro rhwng y safbwynt diwydiannol a’r safbwynt cynaliadwy’n adlewyrchu gwrthdaro ehangach rhwng y rhai hynny sy’n gweld tir yn nhermau gwerth masnachol posibl a’r rhai hynny sy’n gweld anghenion lleol fel blaenoriaeth i’w bodloni’n gyntaf; rhwng y rhai hynny sy’n gweld cyfoeth natur yn cael ei ddefnyddio i gyflawni anghenion sylfaenol a’r rhai hynny sydd am ei breifateiddio am elw. Ochr yn ochr â hyn, mae dwy fath o agwedd wyddonol: y gwyddonydd gorllewinol sy’n chwilio am goed gyda nodweddion ‘uwch’ i fridio a datblygu i gyflawni anghenion diwydiant, a’r merched ar dynion hynny sy’n dyfwyr coed ac yn rheolwyr coedwigoedd sy’n cymryd rhan ym mhrosesau natur drwy ddibynnu ar y coedwigoedd. Mae’r trydydd darn yn cynrychioli’r farn ecoleg ddofn sy’n ystyried natur yn wylltir cysegredig sydd â hawl i fodoli heb ymyrraeth.

Attitudes and Nature Statements

Y Drefn a Argymhellir
Dylai myfyrwyr weithio mewn grwpiau o bedwar.
Dylid rhoi’r dyfyniadau iddynt a gofyn iddynt ystyried y cwestiynau canlynol:

Allwch chi roi pennawd i bob darn i grynhoi’r agwedd allweddol at natur yr ydych chi’n meddwl a geir ynddo (meddwl anwythol).

Beth yw’r canlyniadau i’r blaned ar gyfer bob un o’r agweddau hyn os mai hwy yw’r agwedd drech? (meddwl diddwythol).

Pa rai o’r dyfyniadau yr ydych chi’n meddwl sydd â’r syniadau gorau am fyw â natur? Pam? (meddwl creadigol)

Pa un ohonynt ydych chi’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn ein cymdeithas ni yn cytuno â hwy?

Dilyniant
Byddai Stori Chipko yn gwneud dilyniant da gyda’r gweithgaredd hwn.
 
 

 

dylunio a lletya
WiSS Cyf © 2009
  Am ragor o wybodaeth am ADC&DF, cysylltwch â: gwybodaeth@adc-cymru.org.uk