|
Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio
Wedi’u rhestru isod, ceir rhai o’r datganiadau polisi allweddol sy’n dylanwadu ar gynnwys ADC&DF mewn Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon
Dogfennau Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dogfennau'n ymwneud yn benodol â HAGA yng Nghymru
Dogfennau'n ymwneud ag ysgolion a chwricwla ysgolion: Cymru, Lloegr
Dogfennau perthnasol eraill
Dogfennau yr Llywodraeth Cynulliad Cymru
Yn unigryw ymhlith gwledydd yr UE, mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddyletswydd gyfreithiol orfodol i ddilyn datblygu cynaliadwy ym mhopeth mae’n ei wneud. Mae hyn wedi’i adeiladu i mewn i’w chyfansoddiad drwy adran 121 o Ddeddf Llywodraeth Cymru. http://www.hmso.gov.uk/acts/acts1998/80038--m.htm#121
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy - Strategaeth i Gymru
Y mae’r ddogfen allweddol hon wedi ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad ym 2005. Bydd y cynllun terfynol ar gael ym 2006 ar y safle Dysgu Cymru http://www.dysgu.cymru.gov.uk/ o dan Cyhoeddiadau. Mae’n cynnwys adrannau ar sectorau Ysgol, Ieuenctid, Addysg Uwch, Addysg Bellach a Dysgu seiliedig ar Waith, ac Addysg Oedolion a Pharhaus.
Tudalennau datblygu cynaliadwy
http://www.cymru.gov.uk/themessustainabledev/
Cymru Gynaliadwy – Dechrau Byw’n Wahanol
Cynllun Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru (2004) Ar gael yn: http://www.cymru.gov.uk/themessustainabledev/content/review/revised-scheme-w.htm
Cynllun Gweithredu Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru http://www.cymru.gov.uk/themessustainabledev/content/review/action-plan-final-w.htm Mae’r cynllun gweithredu yn cynnwys adrannau ar Cymru: dinesydd byd-eang ac Addysg ar gyfer dyfodol cynaliadwy: Rhoi lle i ddatblygu cynaliadwy mewn addysg
Dogfennau’n ymwneud yn benodol â HAGA yng Nghymru
Ymgynghoriad ar y Safonau Statws Athro Cymwysedig a Gofynion Darparu Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon. Y mae ymgynghoriad hwn wedi cau yng nghanol 2005. Mae dogfennau ar gael ar safle Dysgu Cymru http://www.dysgu.cymru.gov.uk/
Mae atodiad B, S3.3.15 yn dweud: Er mwyn enill SAC rhaid i’r hyfforddeion arddangos:
Maent yn achub ar gyfleoedd priodol i hybu addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang ym mhob agwedd are u haddysgu.
Dyfyniadau o Benchmark Standards for Education Studies, QAA, 2000 www.qaa.ac.uk/crntwork/benchmark/education.pdf. Mae’r safonau hyn yn sylfaen i’r holl gyrsiau addysg israddedigion a ddilyswyd ers 2000, yn cynnwys BA, BEd, BSc gyda Statws Athro Cymwys. Maen nhw gynnwys adrannau ar Wybodaeth a Dealltwriaeth, Cymhwyso ac Adfyfyrio sydd yn berthnasol iawn i ADCDF.
Cyngor Addysg Cyffredinol Cymru (2000)
Cod Proffesiynol i Athrawon.
Mae gan athrawon swyddogaethau pwysig a hanfodol i’w chwarae wrth addysgu disgyblion, dylanwadu arnynt a’u meithrin, i’w paratoi i ddod yn ddinasyddion cyfrifol sy’n cymryd rhan lawn yn y gymdeithas leol, genedlaethol a rhyngwladol Mae athrawon yn cydnabod yr angen am gyd-atebolrwydd ac ymrwymiad gan yr holl bartneriaid wrth gyflawni dyheadau ac amcanion a rennir.
Maent wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal i ddisgyblion, cydweithwyr ac eraill y deuant i gyswllt proffesiynol â hwy, gan barchu gender, ethnigrwydd, oedran, crefydd, anghenion arbennig, tueddiad rhywiol a chefndir ieithyddol.
|