|
Diffiniadau | Rhestrau adnoddau | Rhesymwaith a Pholisi | Integreiddio ADFDC mewn cyrsiau HAGA | Deall DC a DF | Gweithgareddau sefydliadau HAGA eraill? | Strategaethau addysgu a dysgu | Sefydliadau sy'n cynnig cyfraniadau i'r cwrs | Cyflwyniadau a gweithgareddau | Cyfleoedd hyfforddi pellach | Astudiaethau achos ysgolion | Chwilio
Mae argymhellion yma yn dod o Brifysgol Cymru, Bangor, Adroddiad ADC&DF (Bennell, 2004)
Argymhellion ar gyfer gwreiddio addysg ar gyfer dinasyddiaeth fyd-eang a datblygu cynaliadwy mewn cyrsiau HAGA
Mae mireinio ac ailffurfio’r argymhellion blaenorol yn esgor ar yr argymhellion strategol a ganlyn am ADFDC mewn cyrsiau HAGA.
- Dylid penodi cydlynydd gyda chyfrifoldeb arbennig am ADFDC. Dylai ef/hi fod yn gweithio yn y system eisoes neu’n agos gysylltiedig.
- Dylid gwneud archwiliad i weld beth sydd yn digwydd eisoes mewn cyrsiau sy’n berthnasol i ADFDC. Bydd cynnwys sydd angen, efallai, ond ambell i frawddeg gysylltiol i amlygu ei berthnasedd.
- Dylai gwaith ddigwydd y tu mewn i strwythur y sefydliad. Gall ADFDC gael ei sefydlu ar wahanol lefelau sefydliad, megis:
- i gynnwys darlithoedd a seminarau;
- i ddogfennau modiwlau;
- i ddogfennau cyrsiau;
- i bolisïau a datganiadau cenhadaeth ysgol gyfan;
- i bolisi’r brifysgol.
- Dylid cael yr uwch-dîm rheoli i gytuno ar hyn, ond dylid anelu’r drafodaeth hefyd at bob lefel o’r sefydliad. Unwaith i syniadau gael eu ffurfio, bydd arferion yn newid. Efallai y bydd yn rhaid i’r uwch-reolwyr weld esiamplau o arfer da cyn cael eu hargyhoeddi o werth ymdrin ag ADFDC ar lefel sefydliad.
- Dylid nodi pleidwyr ADFDC yn y sefydliad. Bydd pobl ym mhob sefydliad sydd yn ymddiddori’n arbennig mewn ADFDC. Gall eu dwyn ynghyd mewn Grŵp Ffocws fod yn sbardun i weithgareddau eraill i godi ymwybyddiaeth.
- Dylid amlygu’r gwerth addysgol; cyfeiriwch at ddogfennau allweddol.
- Dylid caniatáu amser i weithredu’r broses yn llawn; mae llawer ohono yn fater o newid ffordd pobl o feddwl. Ni ellir ei wthio ar bobl. Mater yw o drafod, ymchwilio a chyd-drafod.
- Bydd angen canfod adnoddau ac amser i sicrhau hyfforddiant staff. Dylai hyn ffitio i raglen ddatblygu staff proffesiynol.
- Dylid annog prosiectau rhyngwladol, yn enwedig y rhai sy’n golygu partneriaethau deuffordd. Mae’r rhain yn helpu i ffurfio dealltwriaeth rhyng-ddiwylliannol. Yn ddelfrydol, dylai staff, myfyrwyr ac athrawon fod yn rhan o hyn.
- Dylid dwyn i mewn ysgolion partneriaeth o’r cychwyn. Dylid nodi ADFDC yn glir fel agwedd i ymdrin ag ef ar brofiad ysgol. Mae hyfforddiant penodol i godi ymwybyddiaeth i bob mentor yn ddymunol, a dylid sicrhau cydweithio gyda hyfforddiant AALl.
- Dylid gwneud cysylltiadau gyda digwyddiadau perthnasol eraill yn y brifysgol a thynnu sylw atynt.
- Dylid defnyddio’r arbenigedd sydd mewn Canolfannau Addysg Ddatblygiad a SALl Datblygu, yn ogystal ag adrannau prifysgol eraill, er mwyn cyfoethogi cyrsiau HAGA.
|